Ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i goginio’n araf gyda jin eirin, eirin, sinsir ac anis



Method

  1. Twymwch y popty ymlaen llaw i Nwy 3, 160ºC, 325ºF.
  2. Twymwch yr olew mewn padell neu ddysgl gaserol fawr sy’n addas i’r popty. Ychwanegwch y garlleg a’r winwns a’u coginio’n ysgafn am 1-2 funud.
  3. Ychwanegwch y ciwbiau cig oen a’u brownio’n dda cyn ychwanegu’r pupur a halen, sinsir, anis, jin eirin, stoc a’r jam. Cymysgwch yn dda, a’i adael i godi i’r berw.
  4. Rhowch y ddysgl yn y popty a’i goginio am 1½ awr nes bod y cig yn hyfryd o feddal.
  5. Ychwanegwch yr eirin tua 30 munud cyn gorffen coginio.
  6. Gweinwch gyda llysiau gwyrdd tymhorol a bara ffres. Mwynhewch, yn ara’ deg.

Recipe Information

Serves 6
Calories 420 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1kg (2.2 bwys) o ysgwydd, diasgwrn,
  • Cig Oen Cymru wedi’i thorri’n giwbiau
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o olew olewydd
  • 2 winwnsyn, wedi’u torri’n chwarteri
  • 2 ewin garlleg, wedi’u sleisio
  • Pupur a halen
  • 2.5cm (1" ) o wreiddsinsir, wedi’i
  • blicio a’i dorri’n fân
  • 4 anis
  • 150ml (¼ peint) o jin eirin, gwin eirin
  • duon mawr neu bort
  • 300ml (½ peint) o stoc cig oen
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o jam eirin neu
  • eirin duon mawr
  • 6 eirinen, wedi’u haneru heb y cerrig

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 420 kcal
  • Egni 1755
  • Braster 17g
  • Braster Dirlawn 5.0g
  • Halen 1.5g
  • Haearn 2.3g
  • 5-y-dydd 2