Ysgwydd Cig Oen Cymru wedi’i choginio’n araf gyda Sbeisys Tsieineaidd



Method

  1. Rhowch haen ddwbl o ffoil ar waelod padell rhostio. Rhowch y cig yn y badell gyda'r ochr frasterog am i fyny. Sgoriwch batrwm cris-groes yn ddwfn yn y cig a rhwbiwch y sinsir, y garlleg, y 5 Sbeis a'r surop masarn drosto.
  2. Arllwyswch y sudd pîn-afal i mewn i'r badell ac ychwanegwch y seren anise. Rhowch haen arall o ffoil dros y cig a chrychwch y ffoil yn llac o amgylch y cig.
  3. Coginiwch y cig am tua 1½-2 awr nes bod y cig yn frau ac wedi meddalu ac yn dod i ffwrdd yn hawdd o'r asgwrn − tynnwch yr haen ffoil sydd ar ben y cig ac arllwyswch ychydig o surop masarn drosto cyn ei roi nôl yn y ffwrn am 30 munud i grasu.
  4. Gweinwch gyda'r suddion coginio drosto gyda chrempogau Tsieineaidd a stribedi o giwcymbr a shibwns fel cinio neu gwrs cyntaf − neu gyda thatws stwnsh hufennog a llysiau wedi'u stemio fel prif bryd.

Recipe Information

Serves 4
Calories 221 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1 Ysgwydd o Gig Oen Cymru ar yr asgwrn, heb lawer o fraster
  • 2.5cm (1") Gwreiddyn sinsir, wedi'i blicio a'i gratio
  • 3 Ewyn garlleg, wedi'u gwasgu
  • 10ml (2 lwy de) O 5 sbeis Tsieineaidd
  • 30ml (2 lwy fwrdd) O surop masarn
  • 300ml (½ peint) O sudd pîn-afal neu stoc cig oen
  • 3 Seren anise
  • 30ml (2 lwy fwrdd) O surop masarnern

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 221 kcal
  • Egni 922
  • Braster 10g
  • Braster Dirlawn 3.9g
  • Halen 1g
  • Haearn 2.3g
  • 5-y-dydd 0