Cig Eidion Cymru o ochr orau’r forddwyd wedi rhostio mewn dull tsieineaidd gludiog gyda llysiau rhost sur a melys



Method

  1. Twymwch y popty i Farc Nwy 4, 180ºC, 350ºF.
  2. Cymerwch y cig a'i roi mewn tun rhostio mawr. Rhowch halen a phupur arno a thaenu olew sesame drosto. Rhowch yn y popty a'i goginio am ¾ yr amser coginio cywir: Gwaedlyd - 20 munud i bob 450g/½kg (1lb) ac 20 munud arall Canolig - 25 munud i bob 450g/½kg (1lb) a 25 munud arall Wedi'i goginio'n dda - 30 munud i bob 450g/½kg (1lb) a 30 munud arall
  3. Cymysgwch gynhwysion y saws Tsieineaidd gydai'i gilydd.
  4. 50 munud cyn diwedd yr amser coginio, ychwanegwch y llysiau (heblaw'r pak choi - ychwanegwch hwn 10 munud cyn diwedd y coginio) ar waelod y tun rhostio.
  5. Codwch y sudd dros y cig a'r llysiau yn y saws. Rhowch y cig yn ôl yn y popty a chodi'r sudd drosto eto ar ôl 10 munud.
  6. Pan fydd wedi coginio, gadewch i'r cig orffwys am 10 munud cyn ei weini. Cerfiwch y cig yn dafellau tenau a'i weini gyda'r llysiau a'r sudd coginio wedi'i daenu drosto.
  7. Os oes unrhyw fwyd dros ben mae'n flasus iawn yn oer hefyd mewn salad neu frechdan.

Recipe Information

Serves 4
Calories 333 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1.35kg (3lb) Darn o gig eidion
  • Cymru o ben y ffolen neu o ochr orau'r forddwyd
  • 15ml (1 llwy fwrdd) olew sesame
  • Halen a phupur
  • 45ml (3 llwy fwrdd) saws eirin
  • 2.5cm (1") gwraidd sinsir, wedi'i bilio a'i gratio
  • 2 ewin garlleg, wedi'u malu'n fân
  • 30ml (2 lwy fwrdd) saws soi
  • 15ml (1 llwy fwrdd) olew sesame
  • 10ml (2 llwy de) 5 sbeis Tsieineaidd
  • 30ml (2 lwy fwrdd) saws tomato
  • 5ml (1 llwy de) darnau bach o tsili sych
  • 30ml (2 lwy fwrdd) sudd ffrwythau ee oren, afal neu binafal
  • India-corn bach
  • Moron bach
  • Tatws, wedi'u pilio a'u torri'n ddarnau bach
  • Pak choi bach

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 333 kcal
  • Egni 1398kJ
  • Braster 11g
  • Braster Dirlawn 2.8g
  • Halen 2.9g
  • Haearn 5.4g
  • 5-y-dydd 2