
Cynhwysion
- 600g stêcs ffolen Cig Eidion Cymru heb lawer o fraster
- 150g brocoli tenau, wedi ei sleisio’n denau
- 1 winwnsyn coch mawr, wedi ei sleisio’n denau
- 1 llwy de powdr pum sbeis Tsienïaidd
- 20ml saws soi golau
- 2 llwy de saws wystrys (neu gellir defnyddio llond llwy bwdin o saws Worcestershire yn lle)
- 15g darn o sinsir ffres, wedi ei blicio a’i sleisio’n denau
- 1 ewin garlleg mawr, wedi ei sleisio’n denau
- 20g purée tomato
- Sudd 1 lemon
- 50ml sieri neu win gwyn (neu gellir defnyddio 25ml finegr gwin gwyn yn lle)
- 30ml olew hadau rêp – ac ychydig mwy i ffrio’r stêcs, tua llond llwy de
25
Amser coginio
5
Amser paratoi
4
Yn gweini
- Ffrio’r winwnsyn coch, garlleg a sinsir mewn wok am ychydig funudau.
- Ychwanegu’r pum sbeis Tsienïaidd, saws soi, saws wystrys, purée tomato, sudd lemon a gwin (neu sieri).
- Coginio am funud, cyn trosglwyddo’r gymysgedd i fowlen.
- Rhoi’r brocoli mewn powlen, ei orchuddio â dŵr berw a’i adael am 10 munud.
- Twymo gweddill yr olew hadau rêp mewn wok.
- Coginio’r stêcs ffolen sydd wedi eu sleisio’n denau mewn olew poeth yn y wok am 6 - 7 munud tan eu bod wedi brownie.
- Draenio’r brocoli.
- Ei ychwanegu i’r wok ynghyd â’r gymysgedd winwnsyn coch.
- Twymo’r gymysgedd yn ysgafn am ychydig funudau tan ei bod wedi twymo.
- Gweini’r cyfan gyda reis neu nwdls.
