Stecen coes Cig Oen Cymru



Method

  1. Yn gyntaf, twymwch y badell, y radell neu’r barbeciw – gorau po boethaf ar gyfer y stecen berffaith.
  2. Defnyddiwch y cyfarwyddiadau isod i goginio’ch stecen.
  3. Stecen coes neu lwyn Cig Oen Cymru 1-2cm (½ - ¾”) o drwch – 4-6 munud bob ochr. Dyma’r amseroedd coginio yn ôl trwch y cig – bydd angen ychwanegu 1-2 funud arall ar gyfer stêcs mwy trwchus.
  4. Os ydych chi’n defnyddio padell ac wedi coginio’r stecen at eich dant, tywalltwch y saws afal, y sudd afal a’r mintys i mewn iddi. Os ydych chi’n coginio dan y gril neu ar farbeciw, coginiwch eich saws mewn sosban ar wahân a’i ychwanegu cyn gweini.
  5. Nawr, mae’n bryd paratoi’r dresin afal a mintys – y cyfan sydd angen ei wneud yw ychwanegu’r sudd afal, y mintys wedi torri a’r olew olewydd mewn powlen a’u cymysgu’n dda.
  6. Yn olaf, gweinwch y cyfan gyda salad afal, bresych coch a shibwns – gyda’r dresin afal a mintys wrth gwrs

Recipe Information

Serves 4
Calories 472 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 2 coes, neu stêcs lwyn, Cig Oen Cymru
  • Pupur a halen
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o olew olewydd
  • 2 glof o arlleg, wedi’u sleisio (os ydych chi’n coginio mewn padell)
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o saws afal jar
  • 60ml (4 llwy fwrdd) o sudd afal
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o fintys ffres, wedi’i dorri’n fras

Dresin:

  • 45ml (3 llwy fwrdd) o sudd afal
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o fintys ffres wedi’i dorri
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o olew olewydd

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 472 kcal
  • Egni 1956KJ
  • Braster 38.6g
  • Braster Dirlawn 4.3g
  • Halen 0.5g
  • Haearn 1.1mg
  • 5-y-dydd 0