Stecen ffiled wedi’i ffrio mewn menyn brandi



Method

  1. Rhowch ddigon o halen a phupur ar y ffiledi a’u gosod mewn padell ffrio boeth wedi’i chynhesu ymlaen llaw. Mae’r amser coginio yn dibynnu ar drwch y ffiledi:(* trwch o 2-3cm) Ysgafn – 3-4 munud bob ochr Cymedrol – 5-6 munud bob ochr Trylwyr – 7-8 munud bob ochr
  2. Gadewch i’r ffiledi orffwys am ychydig funudau cyn eu gweini.
  3. Ychwanegwch y menyn, y siwgr a’r fanila at y badell a’u toddi. Ychwanegwch y brandi gan adael iddo ferwi a ffrwtian am 30 eiliad, cyn arllwys y saws dros y ffiledi.
  4. Gweinwch gydag asbaragws, wedi’i goginio’n ysgafn yn yr un badell â’r ffiledi, a’r menyn ac ychydig o datws newydd.

Recipe Information

Serves 2
Calories 403 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 2 stecen ffiled o Gig Eidion Cymru, gallwch chi ddewis trwch y ffiledi *

Menyn Brandi:

  • 50g (2owns) o fenyn heb halen
  • 5ml (1llwy de) o siwgr brown ysgafn meddal
  • 2.5ml (1/2 llwy de) o rin fanila
  • 45ml (3 llwy fwrdd) o frandi
  • pupur du

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 403 kcal
  • Egni 1669kj
  • Braster 27g
  • Braster Dirlawn 16.2g
  • Halen 0.1g
  • Haearn 2.4mg
  • 5-y-dydd 0