Y Dwyrain Cig Eidion Cymru a Nwdls



Method

  1. Torrwch y stêcs cig eidion yn stribedi tenau a'u rhoi mewn dysgl fach. Golchwch eich bwrdd torri a'ch cyllell neu defnyddiwch fwrdd a chyllell arall i dorri'r llysiau. Torrwch y pupur yn giwbiau neu stribedi, torrwch y pak choi a'r seleri, torrwch y ciwcymbyr yn stribedi.
  2. Cynheswch eich wok (neu badell ffrio fawr) ymlaen llaw, ychwanegwch yr olew ac yna'r stribedi cig eidion, coginiwch y stribedi am 3 munud, gan droi bob hyn a hyn. Ychwanegwch y garlleg a'r llysiau (cadwch y ciwcymbyr tan y diwedd), trowch am 3 munud arall.
  3. Ychwanegwch y saws soi, y mêl a sudd a chroen y leim - trowch.
  4. Ychwanegwch y nŵdls wedi coginio, y ciwcymbyr a throwch nes bod y cyfan yn grasboeth - ychydig o funudau.
  5. Gweinwch mewn powlenni unigol ac ysgeintiwch goriander ffres drostynt. Bwytewch gyda fforc neu weill bwyta!

Recipe Information

Serves 4
Calories 324 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 2 stêcen cig eidion Cymru - rwmp neu syrlwyn sy'n ddelfrydol - wedi eu torri'n stribedi tenau
  • 15ml (1 llwy fwrdd) olew
  • 15 ml (1 llwy fwrdd) saws soi halen isel
  • 30 ml (2 lwy fwrdd) mêl clîr
  • 2 ewin garlleg, wedi eu pilio a'u malu'n fân Amrywiol lysiau dwyreiniol, e.e: 1 bwnsiad o pak choi (neu ½ bresychen werdd grensiog)
  • 2 goesyn seleri
  • 1 pupur coch
  • ¼ ciwcymbyr
  • Pecyn o nŵdls gwyn canolig wedi eu coginio'n barod (neu berwch nwˆ dls ymlaen llaw)
  • 1 leim, y sudd a'r croen wedi gratio
  • ychydig o goriander ffres wedi ei falu

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 324 kcal
  • Egni 1364kj
  • Braster 9.5g
  • Braster Dirlawn 2.3 g
  • Halen 0.22g
  • Haearn 4.27mg
  • 5-y-dydd 1