Bara naan bach gyda chig eidion sbeislyd a salsa mintys a mango



Method

  1. Gosodwch y briwgig mewn padell oer, cynyddwch y gwres a’i ffrio’n sych nes bydd y briwgig wedi brownio.
  2. Ychwanegwch y winwns a’r pupur a’u coginio nes iddynt feddalu. Ychwanegwch y sbeisys a’r siytni a’u cymysgu’n dda, yna rhowch gaead ar y badell a gadael y cyfan i fudferwi am 5-10 munud.
  3. I wneud y Salsa, cymysgwch y mango, y shibwns, y mintys a’r sudd leim.
  4. Cynheswch y bara dan gril poeth, yna torrwch bob un yn hanner, neu wneud poced ynddynt neu dim ond gosod cymysgedd y briwgig arnynt.
  5. Gweinwch gyda’r salsa mango a dail salad.

Recipe Information

Serves 4
Calories 365 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1lb) o friwgig Cig Eidion Cymru heb lawer o fraster
  • 1 winwnsyn coch, wedi’i sleisio’n denau
  • 1 pupur coch bach, heb yr hadau ac wedi’i dorri’n ddarnau bach
  • 10ml (2 lwy de) o gwmin
  • 10ml (2 lwy de) o sbeis barat,powdwr cyri gweddol boeth neu gymysgedd o sbeisys Moroco
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o siytni mango
  • bara naan neu fara pitta bach
  • Halen a phupur

Salsa Mango:

  • 1 mango aeddfed, wedi’i bilio a’i dorri’n fras
  • 2 shibwnsyn, wedi’u sleisio’n denau
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o fintys ffres, wedi’i dorri’n fân
  • sudd leim

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 365 kcal
  • Egni 1543kj
  • Braster 10g
  • Braster Dirlawn 2.1g
  • Halen 2g
  • Haearn 5.1mg
  • 5-y-dydd 0.5