Pelenni sbeislyd bach o Gig Oen Cymru gyda salad tatws indiaidd cynnes



Method

  1. Mewn dysgl fawr cymysgwch y briwgig oen, garam masala, cwmin a'r tsili. Siapiwch y gymysgedd mewn oddeutu 20 pelen.
  2. Twymwch y gril. Rhoi 3 pelen ar y tro ar sgiwerau pren wedi'u socian mewn dŵr. Rhowch y pelenni o dan y gril am 12-15 munud gan eu troi'n achlysurol, nes eu bod wedi coginio drwyddynt ac wedi brownio.
  3. Mewn dysgl rhowch y tatws cynnes wedi'u coginio, y sibols, y papaia a'r sbigoglys.
  4. Cymysgwch yr iogwrt, jeli mintys a choriander gyda'i gilydd. Rhowch y pelenni sydd ar y sgiwerau ar y ddysgl a thaenu'r dresin iogwrt mintys drostynt.
  5. Gweinwch gyda bara naan wedi'i dostio.

Recipe Information

Serves 4
Calories 771 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1lb) briwgig oen Cymru coch
  • 5ml (1 llwy de) garam masala neu bowdr cyri poethder canolig
  • 5ml (1 llwy de) powdr cwmin
  • 1 tsili gwyrdd, wedi tynnu'r hadau a'i dorri'n fân
  • 450g (1lb) tatws newydd, wedi'u coginio
  • 3 sibolsyn, wedi'u torri'n fân
  • 1 papaia, wedi'i bilio, tynnu'r hadau a'i dorri'n dafellau
  • Dyrnaid mawr o ddail sbigoglys bach
  • 45ml (3 llwy fwrdd) iogwrt naturiol
  • 15ml (1 llwy fwrdd) jeli mintys
  • 30ml (2 lwy fwrdd) coriander ffres, wedi'i dorri
  • Bara naan wedi'i dostio

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 771 kcal
  • Egni 3257kJ
  • Braster 22g
  • Braster Dirlawn 5.8g
  • Halen 2.9g
  • Haearn 7.0g
  • 5-y-dydd 1.5