Ragiau Cig Oen Cymru bach mewn crwst



Method

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i farc nwy 6, 200ºC, 400ºF.
  2. Cynheswch olew mewn padell ffrio fawr, ychwanegwch y ragiau cig oen bach a'u brownio ar bob ochr. Tynnwch nhw o'r badell a gadael iddynt oeri ychydig.
  3. Rhannwch y crwst yn 4 darn a'u rholio'n sgwariau bras. Rhowch un rag ar sgwâr o'r crwst, ychwanegwch chwarter o'r madarch a'r pâté. Brwsiwch ymyl y crwst gyda'r gymysgedd ŵy a llaeth a'i blygu i fyny o amgylch y cig gan adael yr esgyrn allan a phlygu'r crwst oddi tano. Gwnewch yr un peth gyda'r 3 rag arall.
  4. Rhowch y ragiau mewn crwst ar hambwrdd pobi a'u pobi am 20-25 munud nes maent yn frown euraidd.
  5. Gweinwch gyda thatws wedi'u ffrio'n ysgafn a llysiau tymhorol neu salad.

Recipe Information

Serves 8
Calories 536 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 4 rag bach o Gig Oen Cymru â 2 asgwrn
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o olew
  • 50g (2oz) o fadarch botwm, wedi'u sleisio'n denau
  • 50g (2oz) o bâté Ardennes
  • Pupur a halen
  • Pecyn 500g o grwst pwff wedi'i wneud yn barod
  • Ŵy a llaeth i roi sglein

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 536 kcal
  • Egni 2231kJ
  • Braster 40.5g
  • Braster Dirlawn 18.4g
  • Halen 1.5g
  • Haearn 2.0g
  • 5-y-dydd 0