Coes Cig Oen Cymru gyda reis pilau harissa ac almonau



Method

  • Amseroedd coginio
  • Cymedrol – 25 munud fesul 450g/½kg
  • (1 pwys) a 25 munud arall
  • Coginio’n dda – 30 munud fesul 450g/½kg
  • (1 pwys) a 30 munud arall
  1. Twymwch y popty ymlaen llaw i Nwy 4, 180ºC, 350ºF.
  2. Pwyswch y cig a chyfrifwch yr amser coginio yn ôl yr amseroedd uchod.
  3. Rhowch y goes cig oen mewn tun rhostio. Taenwch y past harissa dros y cig i gyd a thywallt ychydig o’r olew drosto. Rhostiwch a’i iro bob hyn a hyn. Os yw’r past harissa yn dechrau llosgi, gorchuddiwch y cig â ffoil tenau.
  4. Tua hanner awr cyn gorffen coginio, ychwanegwch y moron a’u gosod o amgylch y cig – a’u gorchuddio ag unrhyw sudd.
  5. Rhowch holl gynhwysion y pilau, (heblaw’r almonau a’r coriander ffres) mewn sosban fawr o ddwˆr berw.
  6. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn tan fod y reis yn feddal.
  7. Draeniwch y reis ac ychwanegu’r almonau a’r coriander ffres ato, a’i droi.
  8. Gadewch y cig rhost i orffwys cyn ei sleisio – a’i weini gyda moron a’r reis pilau almonau. Blas ar Ogledd Affrica, cynhwysion o Cymru.

Recipe Information

Serves 4
Calories 620 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1 goes Cig Oen Cymru
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o olew olewydd
  • 30g (2 lwy fwrdd) o bast harissa
  • 2 ewin garlleg, wedi’u gwasgu’n fân
  • 10 o foron bach, wedi’u sgwrio

Reis pilau:

  • 300g (10oz) o reis grawn hir hawdd i’w goginio
  • 5g (1 llwy de) o goriander sych
  • 5g (1 llwy de) o hadau cwmin
  • 5g (1 llwy de) o sinamon
  • 10g (2 lwy de) o dyrmerig
  • Pinsiad o tsili fflawiog
  • 25g (1oz) o almonau fflawiog wedi’u crasu
  • 30g (2 lwy fwrdd) o goriander ffres, wedi’i dorri’n fân

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 620 kcal
  • Egni 2604KJ
  • Braster 26g
  • Braster Dirlawn 6.1g
  • Halen 0.8g
  • Haearn 5.7g
  • 5-y-dydd 0.5