Coes Cig Oen Cymru gyda chnau coco, chilli a coriander



Method

  1. Tynnwch y llinynnau a gwastadewch y cig oen Cymru. Rhowch y goes oen mewn dysgl fas ac ychwanegwch gynhwysion y marinad - cyfunwch nhw gyda'i gilydd yn drwyadl, gorchuddiwch y ddysgl a'i rhoi yn yr oergell am 1 awr.
  2. Twymwch y popty i farc nwy 4-5, 180°C, 350°F
  3. Tynnwch y cig o'r marinad a rhowch waellau metal yn gris-groes drwy'r cig i'w gadw'n fflat. Coginiwch ar farbeciw gyda chaead - gosodwch yn fflat ar grid y barbeciw (ddim yn rhy agos at y glo) gan droi'n aml am tua 40-50 munud. Neu, rhowch y cig yn syth ar y silff mewn ffwrn wedi ei thwymo'n barod (rhowch dun rhostio oddi tano i ddal y diferion) am tua 40-50 munud nes bod y cig yn frown ar y tu allan ac ychydig bach yn binc yn y canol.
  4. Cymerwch y marinad a berwch yn dda nes ei fod wedi tewychu ychydig - tua 5 munud, ac arllwyswch hwn dros y cig oen. Gweinwch gyda llysiau Tsieineaidd wedi eu tro-ffrio.

Recipe Information

Serves 6
Calories 238 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1 coes Cig Oen Cymru heb yr asgwrn
  • 400ml (tua) tun llaeth cnau coco, isel ei fraster
  • 2 chilli coch, heb yr hadau ac wedi eu torri'n fân
  • 2 ewin garlleg, wedi eu malu
  • Coriander ffres, wedi ei dorri'n fras
  • 1 leim, y sudd a'r croen wedi ei gratio

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 238 kcal
  • Egni 993kj
  • Braster 14.8 g
  • Braster Dirlawn 3.9g
  • Halen 0.20g
  • Haearn 1.71mg
  • 5-y-dydd