Stêcs coes Cig Oen Cymru Eidalaidd wedi'u coginio mewn padell gydag olifau, garlleg a rhosmari



Method

  1. Cynheswch badell ffrio fawr ac ychwanegwch yr olew, y garlleg a'r rhosmari. Symudwch o gwmpas y badell er mwyn cymysgu'r cyflasau.
  2. Ychwanegwch y stêcs cig oen a choginiwch am 3-5 munud bob ochr am gig oen sydd wedi'i goginio'n gymedrol. Ychwanegwch lond llaw o olifau a gweinwch.
  3. Gweinwch gyda thatws wedi'u ffrio'n ysgafn a llysiau tymhorol.

Recipe Information

Serves 4
Calories 208 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 4 stêc coes Cig Oen Cymru goch
  • 5ml (1 llwy de) o olew olewydd
  • 2 ewin garlleg, wedi'u sleisio
  • 2 sbrigyn o rosmari, gyda'r dail wedi'u tynnu oddi ar un a'u torri'n fras
  • Pupur a halen
  • Llond llaw o olifau cymysg wedi'u marinadu

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 208 kcal
  • Egni 867kJ
  • Braster 13g
  • Braster Dirlawn 4.4g
  • Halen 1.2g
  • Haearn 1.7g
  • 5-y-dydd 0