Harissa Welsh Lamb Koftas



Method

  1. Yn gyntaf, rhowch y briwgig mewn powlen fawr ac ychwanegwch y past harissa, y garlleg, y tomatos a’r pupur a halen.
  2. Yna, rhannwch y gymysgedd yn wyth darn a’u mowldio’n siapiau selsig.
  3. Rhowch y sgiwerau drwy’r ‘selsig’ a’u gwasgu’n ysgafn i’w cadw’n sownd.
  4. Rhowch y Koftas newydd ar blât, eu gorchuddio a’u gadael i oeri yn y rhewgell am 15-20 munud.
  5. Nawr, twymwch y gril yn barod, tynnwch y Koftas o’r oergell, a’u coginio dan y gril poeth – coginiwch am ryw 12 munud hyd nes eu bod yn euraidd ac wedi’u coginio’n drylwyr.
  6. Wrth i’r Koftas Cig Oen goginio; cymysgwch y tomato mawr, y ciwcymbr, y tomatos wedi’u sychu yn yr haul, yr oregano sych, y caws feta a’r oregano sych - ac ychwanegwch fymryn o bupur a halen.
  7. Gweinwch y Koftas gyda salad Groegaidd a bara pitsa wedi’i grasu.

Recipe Information

Serves 4
Calories 340 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (pwys) o friwgig Cig Oen Cymru isel mewn braster
  • 15ml (1 llwy fwrdd) o bast Harissa
  • 1 clof o arlleg, wedi’i falu
  • 5 tomato wedi’u sychu yn yr haul, wedi’u torri
  • Pupur a halen
  • Sgiwerau bamb , wedi’u gwlychu mewn dŵr oer

Salad Groegaidd:

  • 1 tomato mawr, wedi’i dorri’n giwbiau
  • ¼ ciwcymbr, wedi’i dorri’n giwbiau
  • 4 tomato wedi’u sychu yn yr haul, wedi’u torri
  • Pinsied o oregano sych
  • 50g (2 owns) o gaws Feta, wedi’i falu
  • Pupur a halen
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o bersli ffres, wedi’i dorri’n fras

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 340 kcal
  • Egni 1412KJ
  • Braster 24.1g
  • Braster Dirlawn 3g
  • Halen 2.1g
  • Haearn 3.4mg
  • 5-y-dydd 0.5