Golwython Cig Oen Cymru gyda feta

  • Amser paratoi 10 mun
  • Amser coginio 30 mun
  • Ar gyfer 4

Bydd angen

  • 8 golwyth neu gytled Cig Oen Cymru PGI, y braster wedi ei dorri i ffwrdd (tua 100g yr un)
  • 400g tatws bach, wedi eu torri’n sleisys 1cm
  • 3 winwnsyn coch, wedi eu plicio a’u chwarteru
  • 40ml olew olewydd
  • 250g tomatos bach, wedi eu haneru
  • 1 bylb garlleg
  • 2 bupur, wedi eu sleisio a thynnu’r hadau
  • 100g caws feta, wedi ei falu
  • 2 sbrigyn o ddail teim ffres

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 2142 KJ
  • Calorïau: 512 kcals
  • Braster: 25 g
  • Sy’n dirlenwi: 9.7 g
  • Halen: 0.91 g
  • Protein: 38 g
  • Ffeibr: 7.5 g
  • Carbohydradau: 30 g
  • Sy’n siwgro: 14 g

Dull

  1. Rhagdwymo’r popty i 220°C / 200 Ffan / Nwy 7.
  2. Gwasgaru’r tatws a’r winwns ar ddysgl bobi fawr.
  3. Arllwys yr olew dros y llysiau, ychwanegu pupur a halen.
  4. Ei rostio yn y popty am 5 munud, ei dynnu o’r popty, ychwanegu’r cig oen, ‘nôl i’r popty am 10 munud arall os ydych chi’n hoffi eich cig oen yn ganolig, neu ychydig yn hirach os ydych chi’n hoffi eich cig oen yn llai pinc
  5. Tynnu’r ddysgl o’r popty, gwasgaru’r tomatos, garlleg a’r pupurau o gwmpas y ddysgl a’i rhoi ‘nôl yn y popty i rostio am 10 munud arall.
  6. Tynnu’r ddysgl o’r popty a rhannu’r cig oen a’r llysiau rhwng 4 plat cynnes.
  7. Gwasgaru’r feta a’r dail teim dros y top. Gweini ar unwaith.
Share This