Cig Oen Cymru Almaenaidd wedi'i Frwysio gyda Bresych a Ffa



Method

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i farc nwy 3, 160ºC, 325ºF.
  2. Cynheswch yr olew mewn dysgl neu bot caserol mawr y gellir ei roi yn y popty. Ychwanegwch y nionod a'r garlleg a choginiwch yn ysgafn am 1-2 funud.
  3. Ychwanegwch y cig oen a'i frownio'n dda. Ychwanegwch bupur a halen, yr hadau carwe a'r paprica a throi a throsi'r cyfan i orchuddio'r holl gynhwysion. Ychwanegwch y bresych, y ffa, y cwrw a'r stoc. Cymysgwch yn dda. Codwch i'r berw a'i roi yn y popty. Coginiwch am 1½-2 awr nes mae'r cig yn frau.
  4. Gweinwch y cig mewn tafellau trwchus gyda bara crystiog.

Recipe Information

Serves 8
Calories 412 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • Darn 1kg (2lb) o ysgwydd Cig Oen Cymru heb yr asgwrn
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o olew olewydd
  • 2 nionyn, wedi'u chwarteru
  • 2 ewin garlleg, wedi'u sleisio
  • Pupur a halen
  • 5ml (1 llwy de) o hadau carwe, wedi'u malu
  • 5ml (1 llwy de) o baprica poeth
  • 400g (oddeutu) o fresych coch a gwyn, wedi'u torri'n fân
  • Tun 400g (oddeutu) o ffa borotti, wedi'u draenio
  • Tun 400g (oddeutu) o ffa cannellini, wedi'u draenio
  • 300ml (½ peint) o gwrw golau Almaenaidd
  • 300ml (½ peint) o stoc cig oen

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 412 kcal
  • Egni 1716kJ
  • Braster 26g
  • Braster Dirlawn 11.1g
  • Halen 0.85g
  • Haearn 3.9g
  • 5-y-dydd 2.5