Cig Oen Cymru Ffrwythus wedi’i Dro-ffrïo



Method

  1. Twymwch yr olewau mewn woc neu badell ffrïo wrthlud fawr. Rhowch y stribedi cig oen, lemonwellt, garlleg a sinsir yn y badell.
  2. Coginiwch am 4-5 munud nes bo'r cig wedi'i frownio ar bob ochr a'i goginio drwyddo.
  3. Ychwanegwch y siytni mango a'i droi nes bo'n mynd ychydig yn ludiog. Ychwanegwch y llysiau a'i goginio am 2-3 munud.
  4. Yn olaf, ychwanegwch y smwddi ffrwythau.
  5. Rhowch y nwdls drosto a gadael iddo gynhesu drwyddo a'i weini.

Recipe Information

Serves 4
Calories 285 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1lb) stêcs cig oen Cymru wedi'u torri'n stribedi tenau
  • 15ml (1llwy fwrdd) olew
  • 5ml (1llwy de) olew sesame
  • 1 coesyn o lemonwellt, yr haenau caled allanol wedi'u tynnu a'i dafellu'n denau
  • 1 ewin garlleg, wedi'i wasgu
  • 1" (2.5cm) sinsir ffres, wedi'i bilio a'i ferwino
  • 100ml smwddi ffrwythau e.e. mango a granadila
  • 15ml (1llwy fwrdd) siytni mango
  • 2 pen pak choi neu ddail Tsieineaidd, wedi'u tafellu'n denau
  • 50g (2oz) mange tout neu bys melys, wedi'u torri
  • 50g (2oz) brocoli, wedi'u torri'n flodigion bychain
  • 225g (8oz) nwdls wedi'u coginio o flaen llaw

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 285 kcal
  • Egni 1192kJ
  • Braster 13.2g
  • Braster Dirlawn 4.4g
  • Halen 0.4g
  • Haearn 3.02mg
  • 5-y-dydd 1