Nafarin Ffrengig gyda Choes Cig Oen Cymru



Method

  1. Cynheswch y popty i farc nwy 4-5, 180ºC, 350ºF.
  2. Defnyddiwch hambwrdd rhostio mawr gwrth-fflam y gallwch ei roi yn y popty a'i gynhesu ar yr hob. Ychwanegwch yr olew, y nionod a'r garlleg a'u brownio ychydig. Ychwanegwch y goes cig oen a'i brownio ar bob ochr os yw'n bosib.
  3. Ychwanegwch y llysiau, y perlysiau, y gwin a'r stoc. Gorchuddiwch â ffoil a choginiwch am ryw 2 awr nes mae'r cig yn frau - gwiriwch ar ôl awr a hanner i sicrhau nad oes angen ychwanegu mwy o hylif a bod digon o 'grefi'.
  4. Gadewch iddo sefyll am 10 munud cyn ei gerfio a'i weini.

Recipe Information

Serves 6
Calories 327 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1 goes gyfan o Gig Oen Cymru ar yr asgwrn
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o olew olewydd
  • 2 nionyn, wedi'u plicio a'u chwarteru
  • 2 ewin garlleg, wedi'u haneru
  • 2 genhinen, wedi'u torri'n dalpiau mawr
  • 8 moronen fach gyfan, wedi'u plicio
  • 8 taten fach Sbrigyn o rosmari, mintys a lafant ffres
  • 2 ddeilen bae
  • 300ml (½ peint) o win gwyn
  • 300ml (½ peint) o stoc cig oen

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 327 kcal
  • Egni 1366kJ
  • Braster 13g
  • Braster Dirlawn 4.6g
  • Halen 0.7g
  • Haearn 3.1g
  • 5-y-dydd 1.5