GBC Francesco Mazzei Paccheri gyda ragù Cig Oen Cymru



Method

  1. Ffriwch y briwgig cig oen nes ei fod yn euraidd mewn padell â thipyn bach o olew ac yna rowch i'r neilltu.
  2. Mewn sosban lleihewch y gwin coch i tua dwy ran o dair ac, yn y cyfamser, chwyswch y winwns, moron, garlleg a seleri mewn padell ar wahân. Ar ôl iddyn nhw chwysu, ychwanegwch y teim, y ddeilen lawryf a'r rhosmari a'u coginio am 2 funud arall.
  3. Ychwanegwch y gwin sydd wedi'i lleihau, y briwgig wedi'i goginio a'r tomatos i'r pot llysiau. Mudferwch yn ysgafn am 4-6 awr, gan adael i'r ragù ffurfio a throi'n saws trwchus, cigog a blasus.
  4. Pan fydd y ragù yn barod, berwch y pasta. Yna cymysgwch y ragù gydag ychydig o ddŵr y pasta. Gwnewch yn siŵr bod y pasta wedi'i orchuddio yn y ragù ac ychwanegwch halen a phupur.
  5. Gweinwch y pasta mewn powlenni ac ar gyfer y garnais, ychwanegwch ricota wedi'i fygu sydd wedi'i gratio, mintys ffres a phupur. Gweinwch gyda llwyaid o 'nduja ar yr ochr.

    Recipe Information

    Serves 4
    Calories kcals
    Cooking Time

    Bydd Angen

    • 500g o friwgig Cig Oen, wedi'i dorri'n fras
    • 50ml o win coch
    • 1 llwy fwrdd o seleri, wedi'i dorri'n fân iawn
    • 1 llwy fwrdd o winwns gwyn, wedi'u torri'n fân iawn
    • 1 llwy fwrdd o foron, wedi'u torri'n fân iawn
    • 1 clof o arlleg
    • 10g o berlysiau cymysg, rhosmari, teim a deilen lawryf
    • 300g o domatos plwm
    • 320g o paccheri
    • 1 llwy de o 'nduja
    • 10g o ricota wedi'i fygu
    • 5g o fintys
    • Halen
    • Pupur
    • Olew olewydd pur iawn

    Gwybodaeth am faeth

    • Egni
    • Braster
    • Braster Dirlawn
    • Halen
    • Haearn
    • 5-y-dydd