Ffiled Cig Eidion Cymru gyda Enllyn Pysgnau, Perlysiau a Leim



Method

  1. Cyfunwch tsili, gwyrdd ffres, saws tsili melys, garlleg, saws soi a haner o'r berlysiau ffres gyda'i gilydd ar gyfer y marinad eidion a'u rhoi mewn dysgl fas - ychwanegwch y cig eidion a rholiwch y darn o ffiled eidion nes ei fod wedi ei orchuddio gan y cynhwysion. Gorchuddiwch ac oerwch yn yr oergell am 1 awr.
  2. Cynheswch radell, gril neu farbeciw ymlaen llaw a choginiwch ar wres canolig am tua 15-20 munud, gan droi'n aml nes ei fod yn frown y tu allan ac yn binc a llawn sudd yn y canol.
  3. Cymysgwch y cynhwysion i gyd i wneud yr enllyn. Gadewch i'r stêc sefyll am 5-10 munud ac yna tafellwch yn drwchus.
  4. Gweinwch gyda'r enllyn pysgnau a salad nwdls.

Recipe Information

Serves 6
Calories 214 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1lb) tua, darn o ffiled, ffolen neu syrlwyn Cig Eidion Cymru
  • 1 tsili gwyrdd ffres, heb yr hadau ac wedi ei dorri'n fân
  • 30ml (2 lwy fwrdd) saws tsili melys
  • 2 ewin garlleg, wedi eu malu
  • 30ml (2 lwy fwrdd) saws soi
  • 60ml (4 lwy fwrdd) perlysiau ffres: basil, parsli, mintys
  • 50g (2oz) pysgnau, wedi eu torri
  • 30ml (2 lwy fwrdd) menyn pysgnau
  • 1 leim, y sudd a'r croen

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 214 kcal
  • Egni 890 kj
  • Braster 12.9 g
  • Braster Dirlawn 3.9 g
  • Halen 0.59g
  • Haearn 2.41mg
  • 5-y-dydd