Ysgwydd Cig Oen Cymru gyda sbeisys cyrri



Method

  1. Twymwch y popty i farc nwy 4, 180°C, 350°F.
  2. Mewn wok neu sosban fawr nad yw'n glynu, twymwch yr olew a ffriwch yr ysgwydd oen nes ei fod yn frown.
  3. Ychwanegwch y winwnsyn a'r garlleg a choginiwch am 1-2 munud.
  4. Ychwanegwch y tomatos, llysiau, isgell a'r sbeisys. Dewch ag ef i'r berw, gorchuddiwch a mudferwch mewn ffwrn wedi'i chynesu'n barod am 2-2½ awr nes bod y cig yn feddal ac yn frau. Tynnwch y cig o'r asgwrn a gweinwch ef mewn talpiau mawr.
  5. Gweinwch gyda llysiau yn y dull Indiaidd, reis a bara naan.

Recipe Information

Serves 4
Calories 409 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • ½ ysgwydd cig oen Cymru coch, heb yr asgwrn
  • 15ml (1 llwy fwrdd) olew
  • 1 winwnsyn, wedi'i dafellu
  • 2 ewin garlleg, wedi eu gwasgu
  • 400g (tua) tun tomatos wedi eu malu
  • 300ml (½pt) isgell
  • 15ml (1 llwy fwrdd) cwmin mâl*
  • 2.5ml (½ llwy de) pupur cayenne *
  • 15ml (1 llwy fwrdd) tyrmerig *
  • 5ml (1 llwy de) sinsir mâl *
  • *neu 33g o gymysgedd Tatws Bombay sych
  • Coriander ffres
  • 4 taten, wedi eu pilio a'u torri'n dalpiau
  • ½ blodfresychen, wedi'i thorri'n flodigion mawr
  • 6 moronen fach, wedi eu pilio neu eu sgwrio
  • ¼ sweden, wedi ei philio a'i thorri'n giwbiau

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 409 kcal
  • Egni 1717kj
  • Braster 13.9g
  • Braster Dirlawn 4.6g
  • Halen 1.03g
  • Haearn 6.42mg
  • 5-y-dydd 3