Cytledi cig oen gyda llugaeron a soy



Method

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i farc nwy 4-5, 180ºC, 350ºF.
  2. Cymysgwch yr holl gynhwysion mewn jwg fawr (ond dim y cytledi a’r satsumas wrth gwrs).
  3. Rhowch y cytledi ar hambwrdd pobi wedi’i gorchuddio â ffoil ac arllwys y saws drostynt (cadwch rywfaint ar gyfer y satsumas) gan roi digon ohono dros y cytledi.
  4. Torrwch bennau’r satsumas a thynnu rhywfaint o’r cnawd ohonynt. Arllwyswch ychydig o’r saws i’r satsumas a gosod y caeadau’n ôl a’u coginio’r un pryd â’r cytledi.
  5. Rhowch yr hambwrdd mewn popty wedi’i gynhesu ymlaen llaw, am 30-35 munud nes y byddant yn ymddangos yn ludiog ac euraidd.
  6. I weini, gosodwch y cyfan ar ddysgl gyda’r satsmuas dipio – Blwyddyn Newydd Flasus!

    Recipe Information

    Serves 4
    Calories 207 kcals
    Cooking Time

    Bydd Angen

    • 8 o gytled Cig Oen Cymru heb lawer o fraster
    • 30ml (2 llwy fwrdd) o saws tsili melys
    • 60ml (4 llwy fwrdd) o saws soi
    • 30ml (2 llwy fwrdd) o saws llugaeron
    • 2 satsuma, sudd a chroen
    • 2 satsuma ychwanegol ar gyfer addurno

    Gwybodaeth am faeth

    • Calorïau 207 kcal
    • Egni 865
    • Braster 9g
    • Braster Dirlawn 6.1g
    • Halen 0.9g
    • Haearn 2.1g
    • 5-y-dydd 0