
Cynhwysion
Ar gyfer y goes cig oen:
- 1kg hanner coes Cig Oen Cymru, heb yr asgwrn neu wedi ei hollti
- 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
Ar gyfer y stwffin:
- 1 llwy fwrdd olew hadau rêp
- 2 winwnsyn, wedi eu plicio a’u torri
- 100g briwsion bara surdoes neu debyg
- 80g datys heb gerrig, wedi eu torri’n fras
- 50g cnau Ffrengig, wedi eu torri’n fras
- Halen a phupur du
Ar gyfer y purée gwrd cnau menyn:
- 500g gwrd cnau menyn, wedi ei blicio, tynnu’r hadau a’i dorri’n giwbiau 1cm
- 1 ciwb stoc cig oen halen isel
- 600ml dŵr
90
Amser coginio
30
Amser paratoi
5+
Yn gweini
Amser coginio:
Wedi ei goginio’n ganolig: 25 munud i bob 450g a 25 munud arall
Wedi ei goginio’n dda: 30 munud i bob 450g a 30 munud arall
- Ar gyfer y stwffin, cynheswch yr olew mewn padell ffrio wrthlud dros wres canolig a ffrio’r winwns nes eu bod yn feddal ac wedi lliwio'n ysgafn. Tynnwch o'r badell a'u hoeri am 5 munud.
- Mewn powlen ganolig ychwanegwch y briwsion bara, y datys a'r cnau Ffrengig, yna ychwanegwch y winwns wedi eu coginio a’u hoeri, a chymysgu'n dda. Ychwanegwch halen a phupur at eich dant.
- Rhowch y cig oen ar fwrdd torri, gydag ochr y croen i lawr. Sgwpiwch y stwffin i lawr canol y cig oen a'i blygu drosodd i amgylchynu'r stwffin. Clymwch bob 2cm â llinyn cigydd ac ailbwyswch y darn o gig.
- Cynheswch y ffwrn i 180-190ºC / 160-170°C ffan / Nwy 4-5.
- Trosglwyddwch i dun rhostio wedi ei leinio â ffoil, diferu gyda'r olew, a’i rwbio’n ysgafn dros y cig oen a'i sesno. Rhostiwch yn y ffwrn am yr amser coginio priodol. Tynnwch allan o'r ffwrn, ei orchuddio a'i roi o'r neilltu i orffwys.
- Ar gyfer y purée gwrd cnau menyn, rhowch y gwrd cnau menyn, y ciwb stoc a'r dŵr mewn sosban a'i ferwi. Mudferwch am 15 munud nes bod y gwrd yn feddal. Hidlwch y gwrd, ond cadwch y stoc. Rhowch y gwrd mewn blendiwr a’i droi’n purée gydag ychydig bach o'r stoc dros ben i greu ansawdd llyfn.
- Tra bod y gwrd yn coginio, rhowch y cêl a'r brocoli mewn powlen, diferu olew drosto, sesno a chymysgu’n ysgafn nes eu bod wedi gorchuddio. Gwahanwch i ddau hambwrdd pobi a'u rhostio yn y ffwrn am 7-8 munud neu hyd nes bod y cêl neu'r bresych yn grimp a’r brocoli'n feddal. Tynnwch allan a'u rhoi o'r neilltu.
- Sleisiwch y cig oen, rhannu'r purée gwrd rhwng platiau gweini cynnes a rhoi'r llysiau gwyrdd a'r tafelli cig oen ar eu pen. Gorffennwch gyda diferion o'r suddion rhostio a'i weini.
