Tsili o ddarnau o Cig Eidion Cymru



Method

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i Farc Nwy 4, 180°C, 350°F.
  2. Cynheswch yr olew mewn pot caserol mawr a all wrthsefyll gwres y ffwrn a browniwch y cig ar bob ochr.
  3. Ychwanegwch y sialóts, y tsili a'r garlleg, a'u meddalu ychydig.
  4. Ychwanegwch weddill y cynhwysion (heblaw am gynhwysion y salsa) a'u troi a'u cyfuno'n dda.
  5. Rhowch mewn ffwrn sydd wedi'i chynhesu ymlaen llaw am 2-2½ awr nes bod y cig yn frau.
  6. Gweinwch mewn powlenni gyda reis, salsa tomato a thalpiau o hufen sur.

Recipe Information

Serves 4
Calories 298 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1 pwys) O giwbiau brwysio Cig Eidion Cymru heb lawer o fraster
  • 15ml (1 llwy fwrdd) O olew
  • 6 Sialotsyn, wedi'u plicio a'u haneru
  • 1 Tsili coch, heb hadau ac wedi'i sleisio
  • 2 Ewin garlleg
  • 400g (neu faint tebyg) O domatos tun wedi'u torri
  • 400g (neu faint tebyg) O ffa coch tun, wedi'u draenio a'u golchi
  • 150ml (¼ pt) O bassata
  • 150ml (¼ pt) O stoc cig eidion
  • 10ml (2 lwy de) O bowdwr tsili

Salsa Tomato:

  • 2 Domato ffres, wedi'u deisio
  • 1 Pupryn gwyrdd, heb hadau ac wedi'i ddeisio
  • 1 Shibwnsyn, wedi'i sleisio
  • 30ml (2 lwy fwrdd) O goriander ffres, wedi'i dorri
  • Hufen sur i weini

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 298 kcal
  • Egni 1253KJ
  • Braster 10g
  • Braster Dirlawn 2.6g
  • Halen 1.8g
  • Haearn 6.1g
  • 5-y-dydd 3