Coes Oen Cymru Nadolig gyda Sbeis Gaeaf a Gellyg



Method

  1. Twymwch y popty i farc nwy 4-5, 180°C, 350°F.
  2. Pwyswch y darn cig a gweithiwch allan yr amser coginio gan ddefnyddio'r amseriadau: Cymedrol - 25 munud y 450g/½kg (1lb) a 25 munud Coginio'n Dda - 30 munud y 450g/½kg (1lb) a 30 munud
  3. Cymysgwch yr ellygen â'r sinamon a'r siwgr.
  4. Cymerwch y darnau gellyg a'i gwthio i'r lle'r oedd asgwrn y goes - os ydych angen torri'r llinynnau i roi'r ellygen yn y cig, ailglymwch nhw - mae dolenni Nadoligaidd yn gwneud canolbwynt da i'r bwrdd!!
  5. Rhowch y cig mewn tun rhostio wedi'i leinio â ffoil.
  6. Ychwanegwch y gellyg cyfan i'r tun ac arllwyswch y seidr dros y cyfan ac ysgeintiwch â'r sbeis cymysg.
  7. Rhostiwch yn agored am yr amser sydd ei angen.
  8. Tynnwch y gellyg ar ôl rhyw 40 munud, pan maent yn frau ond yn dal yn cadw'u siâp.
  9. Tynnwch y cig o'r ffwrn a'i adael i sefyll am 10 munud cyn cerfio.
  10. Arllwyswch y suddion cig i sosban a berwi i'w lleihau - eu tewychu os dymunwch.
  11. Gweinwch ddarnau trwchus o gig oen gyda'r gellyg a thatws rhost y Nadolig a llysiau gwyrdd o'ch dewis.

Recipe Information

Serves 6
Calories 235 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 1 Coes Oen Cymru gyfan cerfdy (wedi'i diesgyrnu'n rhannol)
  • 1 Gellygen aeddfed, wedi ei philio, tynnu'r galon a'i chwarteru
  • 2.5ml (½ llwy de) Sinamon
  • 5ml (1 llwy de) Siwgr brown
  • 4 Gellygen
  • 150ml (½ pt) Seidr melys
  • 2.5ml (½ llwy de) Sbeis melys

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 235 kcal
  • Egni 984kj
  • Braster 9.2g
  • Braster Dirlawn 3.9g
  • Halen 0.22g
  • Haearn 2.14mg
  • 5-y-dydd 1