
Cynhwysion
- 600g stêc Syrlwyn Cig Eidion Cymru, wedi ei thrimio a’i thorri’n giwbiau 3cm
- 2 lwy de pimento sych
- 2 lwy de paprica wedi ei fygu
- 2 lwy de gronynnau garlleg
- ½ llwy de nytmeg wedi ei ratio
- 1 llwy de halen seleri
- 80ml olew hadau rêp
- 2 bupur, wedi eu torri’n ddarnau 3cm
- 2 winwnsysn coch, wedi eu torri’n ddarnau 3cm
- 250g couscous
- 15g coriander fres, wedi ei dorri’n fân
- Halen môr a phupur du
- 8 sgiwer pren neu fetal (bydd angen socian sgiwerau pren mewn dŵr am 40 munud cyn coginio)
12
Amser coginio
20
Amser paratoi
4
Yn gweini
Ar gyfer y cebab:
- Mewn powlen fawr, cymysgu’r pimento sych, paprica wedi ei fygu, gronynnau garlleg, halen seleri, nytmeg ac olew hadau rêp.
- Ychwanegu blas gyda phinsiad o halen a phupur du.
- Ychwanegu’r Cig Eidion Cymru a chymysgu’n dda.
- Yn ddelfrydol, gadael i’r cig eidion fwydo a gorffwys am 2-3 awr cyn ei goginio.
- Rhoi’r cig eidion a’r llysiau ar y sgiwerau.
- Gosod darnau o gig eidion a llysiau bob yn ail tan bod yr holl gynhwysion wedi cael eu defnyddio.
- Eu grilio ar dymheredd canolig i uchel am 12 munud.
- Troi’r cebabs unwaith tra eu bod yn grilio.
- Paratoi’r couscous gan ddefnyddio cyfarwyddiadau’r pecyn.
- Cymysgu’r coriander i mewn i’r couscous ac ychwanwgu halen a phupur at eich dant.
- Gweini’r couscous mewn powlen neu ar blat a gosod y cebabs ar ei ben.
