Peli eidion pôb gyda llysiau rhost a salsa hufennog



Method

  1. Tymheredd: Nwy 4-5, 180°C, 350°F
  2. I wneud y Peli Cig - Cymysgwch y cynhwysion i gyd gyda'i gilydd a'u ffurfio'n 12-15 o beli cig.
  3. Rhowch nhw ar dun ffwrn mawr nad yw'n glynu, ysgeintiwch olew drostynt, a'u pobi yn y ffwrn am 20-30 munud gyda'r llysiau.
  4. I wneud y Salsa - Cymysgwch y cynhwysion i gyd.
  5. Gweinwch y peli cig gyda'r llysiau rhost, spaghetti a'r salsa tomato hufennog.

Recipe Information

Serves 4
Calories 280 kcals
Cooking Time

Bydd Angen

  • 450g (1lb) briwgig eidion coch
  • 15ml (1llwy fwrdd) pureé tomato
  • 15ml (1llwy fwrdd) mwstard
  • 5ml (1llwy de) saws Worcestershire
  • 15ml (1lwy fwrdd) olew olewydd
  • Pupur du
  • 1 winwnsyn coch, wedi ei blicio a'i dorri'n dalpiau
  • 1 pupur coch, heb yr hadau ac wedi ei dorri'n dalpiau
  • 6 madarchen fawr

Ar gyfer y salsa:

  • 200g (8oz) tomatos bach, wedi eu haneru
  • 2 shibwnsyn, wedi eu torri'n fân
  • 1 chilli coch ffres, dim hadau, torri'n denau
  • 30ml (2 lwy fwrdd) coriander ffres, yn fân
  • 45ml (3 llwy fwrdd) crème fraiche

Gwybodaeth am faeth

  • Calorïau 280 kcal
  • Egni 1169 kj
  • Braster 14.6g
  • Braster Dirlawn 6.6 g
  • Halen 0.64g
  • Haearn 4.11mg
  • 5-y-dydd 1