Cig Eidion
1 of 10
Cliciwch i weld y toriadau
Swipe

-
Gwddf
-
Coes Las
-
Palfais a Sbawd
-
Asen Flaen
-
Brisged
-
Ffiled
-
Syrlwyn
-
Ffolen
Top Ffolen
-
Ochr Orau'r Forddwyd
-
Coes
Gwddf
Fel arfer bydd hwn yn cael ei dorri'n ddarnau ar gyfer briwgig. Mae hefyd yn addas ar gyfer stiwio a brwysio, sy'n golygu ffrio'r cig yn ysgafn i ddechrau i'w frownio cyn ei fudferwi mewn hylif.
Coes Las
Fel arfer caiff y cig hwn ei dorri'n ddarnau ar gyfer briwgig. Mae hefyd yn addas ar gyfer stiwio a brwysio.
Palfais a Sbawd
Mae'r darn hwn o gig yn weddol goch ac o ansawdd uchel. Mae'n cael ei dynnu oddi ar yr asgwrn ac yn cael ei werthu fel stecen balfais a phalfais wedi'i disio. Yn addas ar gyfer brwysio, stiwio ac yn rhagorol i lenwi pasteiod.
Asen Flaen
Hwn yw'r darn traddodiadol o gig eidion i'w rostio, ac o hwn rydych chi'n cael stêcs llygad yr asen. Gallwch ei brynu naill ai ar yr asgwrn neu oddi ar yr asgwrn ac wedi'i rolio.
Brisged
Er bod modd i chi brynu'r darn hwn ar yr asgwrn y dyddiau hyn, fel arfer bydd yn cael ei dynnu oddi ar yr asgwrn a'i rolio'n barod i'w bot-rostio.
Ffiled
Y darn mwyaf brau o gig sy'n dod o gyhyr y ffiled y tu mewn i esgyrn yr asennau. Fel arfer bydd yn cael ei dynnu'n un darn ac yn cael ei sleisio'n drwchus i wneud stêcs ffiled neu'n cael ei gadw'n gyfan ar gyfer Cig Eidion Wellington.
Syrlwyn
Darn o gig eidion brau a suddlon iawn y gallwch ei brynu ar yr asgwrn neu oddi ar yr asgwrn ac wedi'i rolio i wneud darn rhostio o ansawdd uchel sy'n hawdd ei sleisio. Gallwch hefyd brynu stêcs syrlwyn sy'n addas ar gyfer ffrio, grilio neu goginio ar farbiciw.
Ffolen
Mae hwn yn ddarn rhagorol o gig coch a brau sy'n cael ei werthu fel arfer mewn sleisys i'w ffrio, grilio neu goginio ar farbiciw.
Ffolen Uchaf: Dyma ddarn o gig eidion coch sy'n addas ar gyfer rhostio a phot-rostio neu i'w frwysio'n gyfan neu ar ôl ei sleisio.
Ochr Orau'r
Forddwyd
Ochr Orau'r Forddwyd: Dyma ddarn o gig eidion coch heb fawr o fraster, sy'n golygu ei fod yn ddarn delfrydol i'w rostio. Gallwch ei brynu â haenen denau o fraster wedi'i lapio o'i amgylch i gadw'r cig yn llaith wrth ei rostio. Hefyd, gallwch ei brynu'n sleisys er mwyn cael stecen i'w ffrio'n gyflym.
Coes
Yr un fath â'r goes las a gwddf, mae'r darn hwn o gig rhatach yn cael ei dorri'n ddarnau ar gyfer briwgig ac mae'n addas dros ben ar gyfer stiwio a brwysio.
Toriadau ar gael
-
-
Burgers
-
Mince
-
-
-
Cylchoedd o'r Goes Las
-
-
-
Ciwbiau o Stecen Balfais
-
Stec Balfais
-
-
-
Stecs Llygad yr Asen
-
Forerib
-
-
-
Brisged wedi Rholio
-
-
-
Stecs Ffiled
-
-
-
Stecs Syrlwyn
-
-
-
Rump Steak
-
Stribedi Tro-ffrio
-
-
-
Darn o'r Ystlys Las
-
Darn o Ochr Orau'r Forddwyd
-
Stec o Ochr Orau'r Forddwyd
-
-
-
Briwgig
-
Cig Oen
1 of 7
Cliciwch i weld y toriadau
Swipe

-
Gwddf
-
Ysgwydd
-
Pen
Gorau -
Brest
-
Lwyn
-
Ffolen
-
Coes
Gwddf
Bydd y darn hwn o gig , sy'n gymharol rad, yn cael ei werthu fel arfer yn gylchoedd gwddf neu olwython ar yr asgwrn, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer stiwio, brwysio, ac mewn seigiau traddodiadol fel Cawl neu Hot Pot Caerhirfryn.
Ysgwydd
Dyma ddarn rhostio brau a suddlon iawn, sydd ar gael naill ai ar yr asgwrn, neu yn fwy cyffredin, oddi ar yr asgwrn ac wedi'i rolio ac ambell waith wedi'i stwffio. Hefyd, gallwch ei gael yn gyfan neu wedi'i haneru'n ddarnau sbawd a migwrn. Mae'r ddau'n ddelfrydol ar gyfer rhostio neu frwysio. Hefyd, mae modd torri'r ysgwydd yn olwython a stêcs sy'n addas i'w ffrio, grilio a brwysio.
Pen Gorau
Gallwch brynu hwn fel ‘rag cig oen' - darn rhostio sy'n cynnwys chwech neu saith o esgyrn asen (gofynnwch i'ch cigydd dynnu'r asgwrn cefn i wneud sleisio'n haws). Ond yn amlach na heb bydd wedi'i baratoi'n gytledau cig oen unigol ar gyfer ffrio a grilio. Mae dau ben gorau sydd yn wynebu ei gilydd a'r ochr fras y tu allan yn cael eu galw'n ‘gosgordd er anrhydedd'.
Brest
Mae hwn yn ddarn o gig oen cymharol rad ac mae'n well ei ddefnyddio mewn stiw. Fel arfer, fodd bynnag, caiff y cig coch ei dynnu i wneud briwgig.
Lwyn
Fel arfer, bydd y lwyn yn cael ei rhannu'n ben lwyn a phen lwyn ôl ac yn cael ei thorri i'w grilio a ffrio. Hefyd, mae modd ei thynnu'n llwyr oddi ar yr asgwrn a'i rholio i wneud darn rhostio neu ei thorri'n 'gnapiau' unigol.
Ffolen
Mae'r darn ffolen yn cael ei alw hefyd yn ‘lwyn ôl' a gallwch ei brynu fel golwython lwyn ôl neu stêcs ffolen oddi ar yr asgwrn. Mae'r rhain yn frau iawn ac yn rhagorol ar gyfer ffrio a grilio. Yn ogystal, mae modd defnyddio'r ffolen oddi ar yr asgwrn fel darn bach i'w rostio.
Coes
Coes cig oen yw'r darn traddodiadol i'w rostio ar gyfer cinio Sul, ac sy'n boblogaidd ledled Prydain. Gallwch ei brynu naill ai ar yr asgwrn neu oddi ar yr asgwrn ac wedi'i rolio. Hefyd, mae modd rhannu'r darn amlbwrpas hwn yn ffiledau a phen siancod, stêcs coes a stribedi i'w ffrio'n sydyn.
Toriadau ar gael
-
-
Ffiledau'r Gwddfs
-
-
-
Stec Ysgwydd
-
Ysgwydd wedi Rholio
-
-
-
Rhagiau
-
Cytledau
-
-
-
Stec Ysgwydd
-
Cebabau
-
Briwgig
-
-
-
Golwython Lwyn
-
Cnepynnau
-
Stecs Ffolant
-
-
-
Stec Ffolen
-
Ffolen heb Asgwrn
-
-
-
Siancen
-
Ciwbiau
-
Stec Coes heb Asgwrn
-
Stribedi Tro-ffrio
-