facebook-pixel

Cynghorion gan gigydd

Butchers' Club Logo

Cynghorion gwerthfawr ynglŷn â dewis, storio a choginio cig gan gigydd arobryn…

Braster

Yn aml gall cigydd profiadol adnabod brid, oed a rhyw anifail wrth edrych ar liw ei fraster yn unig. Bydd y lliw hefyd yn dibynnu ar yr hyn y mae’r anifail wedi’i fwyta. Er enghraifft, gall y braster yng nghig eidion anifail a fagwyd ar borfa fod yn felynach na braster anifail a besgwyd ar farlys, sydd fel arfer yn wyn. Ond dyw hynny ddim yn amharu ar ansawdd y bwyta – yr hyn sy’n bwysig yw bod y braster yn gadarn a sych.

Lliw’r cig

Camsyniad cyffredin yw credu taw’r cig cochaf ei liw yw’r cig gorau.Y cyfan y mae cig coch gloyw yn ei ddynodi yw taw newydd gael ei dorri mae’r cig.Tua 20 munud ar ôl ei dorri bydd lliw coch y cig yn dechrau troi’n frown yn raddol. Felly, gall y cig sydd i’w weld mewn siopau cigydd ac archfarchnadoedd amrywio yn ei liw o goch gloyw i frown cochlyd, ond ni fydd hynny’n amharu ar yr ansawdd bwyta.

Mae cig sydd wedi aeddfedu’n hirach yn tueddu i fod yn dywyllach.Mae’r amrywiadau yn lliw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus yn diflannu unwaith y byddwch yn dechrau eu coginio.

Sut i greu siap iar fach yr haf o goes Cig Oen Cymru

Mae pawb yn hoffi rhoi cynnig ar rywbeth newydd ar y barbeciw er mwyn creu argraff ar deulu a ffrindiau a chreu eiddigedd ymhlith cymdogion. A pha well ffordd o wneud hynny na chynnig ychydig o Gig Oen Cymru blasus? Bydd ein harweiniad gam-wrth-gam i greu siâp iâr fach yr haf o goes Cig Oen Cymru yn rhoi darn o gig perffaith i’w goginio’n hawdd a chyflym ar farbeciw, ac sy’n hynod o frau a danteithiol.

Cam 1: Trimiwch y croen/braster allanol

Defnyddiwch gyllell finiog â llafn gweddol hir i gael gwared â’r rhan fwyaf o’r croen allanol. Os oes cryn dipyn o fraster, tynnwch beth o hwnnw hefyd. Bydd hyn, er nad yw’n hanfodol, yn caniatáu i’r marinâd dreiddio i’r cig ac yn rhoi gwell blas!

Cam 2: Rhyddhau’r asgwrn

Trowch y goes drosodd fel bod yr ochr fflat ar y bwrdd. Rhedwch y gyllell o amgylch yr asgwrn crwm sy’n gwthio allan o ben lletaf y goes. Holltwch y mewn i’r goes mor agos i’r asgwrn ag sy’n bosibl. Ceisiwch beidio â darnio’r cig!

Cam 3: Tynnu’r asgwrn

Torrwch yn ofalus o amgylch yr asgwrn hyd nes y daw i’r golwg fel bod modd torri oddi tano i’w dynnu. Bydd angen i chi ei droi a’i dynnu ychydig er mwyn ei gael yn hollol rydd.

Cam 4: Cael gwared â’r coesgyn

Fe ddowch o hyd i asgwrn arall – y coesgyn, ar ben culaf y goes (pen y siancen). Rhedwch y gyllell o amgylch yr asgwrn i’w ryddhau, rhowch dro iddo a’i dynnu.

Cam 5: Sleisiwch i mewn i’r cig

Agorwch/lledwch y goes cig oen heb asgwrn, a thynnwch unrhyw ddarnau o fraster gormodol. Sleisiwch yn llorweddol a gofalus i mewn i ddarn trwchus o’r cig, ond heb fynd yr holl ffordd drwyddo.

Gwnewch hyn ar y ddwy ochr.

Cam 6: Gorffen

Agorwch y goes a’i gwastatáu nes bod iddi siâp iâr fach yr haf. Dylai hyn roi darn o gig sy’n weddol gyson o ran trwch.

Cyfarwyddiadau coginio terfynol

Mae’r cig yn barod nawr i’w osod yn eich marinâd. Dylech ei adael wedyn am ychydig oriau – neu dros nos os oes modd – er mwyn iddo amsugno holl flasau’r marinâd.

Os ydych chi’n defnyddio barbeciw, mae’n haws trafod a choginio’r cig os rhowch ychydig o weill metel trwyddo i’w ddal ar agor ac yn fflat.

Share This