facebook-pixel

Yr hanes tu ôl i’r bwyd

Ion 4, 2019

Er mwyn gallu gwerthfawrogi’r cariad a’r angerdd sydd ynghlwm â chynhyrchu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru PGI, fe aethom i ymweld â Katie Davies yn ei fferm thir uchel yn Nantymoel i ddysgu mwy am yr hyn y mae ffermio yn ei olygu iddi hi.

Mae ein ffermwyr yn hanfodol i fywyd a ffyniant cymunedau gwledig, ynghyd â chwarae rhan holl bwysig wrth gynnal yr amgylchedd a’n tirweddau hardd.

Yn hytrach na bod yn swydd gyffredin, mae ffermio yn ffordd o fyw y mae rhai fel Katie yn ymroi yn llawn iddo, gyda phob owns o’u hangerdd a’u hymroddiad yn helpu i greu Cig Oen Cymreig a Chig Eidion Cymreig o ansawdd uchel sydd yn destun cenfigen ar draws y byd.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’r fideo gymaint ag y gwnaethom ni fwynhau cofnodi hanes Katie.

Share This