Rhannwch y dudalen hon

Tuesday 22nd September 2015

Great British Bake Off: 5 Rysáit Uchaf ar gyfer Cig Oen Cymru wedi'i Bobi

Fel gweddill y genedl, rydym wedi gwirioni ar y Great British Bake Off. Felly i anrhydeddu GBBO sydd mor agos at ein calonnau, rydym wedi ymateb i'r achlysur a llunio amrywiaeth o seigiau Cig Oen Cymru wedi'u hysbrydoli gan y 'Bake Off' i chi roi cynnig arnyn nhw...


Cliciwch ar y dolenni i gael y ryseitiau llawn.

Yn barod, gan bwyll, pobwch!

1.Crymbl Cig Oen Cymru

#

Nid yw crymbl ar gyfer diwedd swper yn unig! Mae'r saig hyfryd greisionllyd a chawslyd hon yn berffaith fel pryd sylweddol i'r teulu. Gallwch ddilyn y Cogydd Elwen Roberts yma wrth iddi goginio'r Crymbl Cig Oen Cymru.

2.Strwdel Briwgig Oen Cymru ac Afal

Fersiwn hyfryd o'r saig glasurol o'r Almaen, mae'r strwdel Cig Oen Cymru hwn yn cadw'n ffyddlon at y rysáit gwreiddiol trwy gynnwys afal a syltanas. Ond rydym yn siŵr bod Briwgig Oen Cymru a rhosmari yn fersiwn gweddol newydd... Gweinwch mewn tafellau trwchus yn boeth neu'n oer.

#

3.Roli Poli Cig Oen Cymru

Yn draddodiadol mae'r roli poli yn cael ei hystyried yn ddantaith melys - ac yn aml mae'n gysylltiedig â chinio ysgol traddodiadol Prydeinig. Ond mae'r fersiwn sawrus hwn â jeli cyrens coch a Briwgig Oen Cymru wedi agor ein llygaid i'r posibiliadau sawrus blasus. Gweinwch mewn tafellau trwchus â grefi cig oen a llysiau tymhorol neu â'ch hoff saws a salad.

#

4.Pwdin Siwed Cig Oen Cymru gydag Afal a Rhosmari
Mae'r pwdin siwed wedi bod yn saig glasurol yng nghoginio Prydain ers canrifoedd. Ond mae'n sicr ei fod wedi dod yn bell ers ei gychwyniad pan oedd yn ddull o gadw cig yn unig. Ac mae'r Pwdin Siwed Cig Oen Cymru hwn yn brawf go iawn o hynny; â blasau afal a rhosmari yn cyflenwi ei gilydd yn hyfryd, dyma fersiwn blasus o saig glasurol. Gweinwch gyda llysiau gwyrdd tymhorol wedi'u stemio.

#

5.Tarten Cig Oen Cymru, Sbigoglys a Ffeta

Wedi'i leinio â phast tomatos wedi'u sychu yn yr haul sy'n hyfryd o sawrus, tafellau tenau o gorbwmpenni a sbigoglys, mae'r darten Cig Oen Cymru hon yn saig ddelfrydol i'r teulu i'w phobi yng nghanol yr wythnos. Gweinwch gyda salad a thatws newydd.

#


I gael mwy o ysbrydoliaeth, ewch i'n bwrdd Pinterest: https://www.pinterest.com/pgiwelshlamb/baking-welsh-lamb/

Blogs

Er mwyn paratoi at Galan Oen 2019 gwahoddon ni bobl ddylanwadol o’r byd blogio bwyd i Benrhyn Gŵyr
Yn dilyn ei lwyddiant diweddar yn rhyfeddu pobl yn sioe BBC Countryfile Live
Fel mae nifer o’n cefnogwyr ni’n gwybod erbyn hyn, 1 Awst yw Calan Oen..
Mae’r amser wedi cyrraedd unwaith eto eleni i oreuon y byd amaeth lanio yn Llanfair-ym-Muallt i ddathlu pinacl amaethyddiaeth Prydain, onid yw amser yn hedfan?