facebook-pixel

Dysgu coginio yng nghegin Elwen

Ebr 9, 2020

Yn ystod y cyfnod dyrys hwn pan fo ein symudiadau’n cael eu cyfyngu, mae mwy o amser gennyn ni i’n hunain, ac mae hynny’n cynnwys ein plant sy’n gorfod aros adref o’r ysgol ar hyn o bryd. Mae ymdrechu i barhau eu haddysg a hefyd, yn bwysicach fyth, trio eu diddanu o gwmpas y tŷ yn swydd lawn amser yn ei hun, felly pa opsiynau sydd ar gael?

Efallai bod rhoi rhwydd hynt iddyn nhw yn y gegin yn codi ofn arnoch chi ond credwch chi ni, gall y manteision fod yn fwy na’r llanast! Gall arbrofi yn y gegin arwain at amrywiaeth eang o fuddiannau i’n plantos, o wella eu sgiliau darllen a mathemateg i gyfoethogi eu geirfa gyda thermau sy’n ymwneud â choginio. Gall hefyd wneud i blant deimlo’n fwy cyfforddus gyda gwahanol fwydydd a chynhwysion ac yn ôl ymchwil gall wneud plant yn llai ffyslyd gyda’u bwyd – fyddai’n gwneud pawb yn hapus!

Gall dechrau gyda gwers goginio syml arwain at drafod pwnc addysgiadol ehangach e.e. o ble daw ein bwyd ni, sy’n plethu â’n detholiad ni o weithgareddau. O chwileiriau a gweld y gwahaniaeth i straeon addysgiadol, mae oriau o hwyl a dysgu i’w cael trwy wneud ein gweithgareddau.

Gyda chymorth ac arweiniad, bydd eich plantos bach yn coginio cinio rhost Cig Oen Cymru anhygoel mewn dim o dro! Felly, beth fydd eu gwers goginio gyntaf? Dilynwch rysáit cebab cymysg Elwen isod.

Share This