Rhannwch y dudalen hon

Tuesday 7th June 2016

​Cig Oen Cymru: Ffocws ar Foroco

Mae Moroco yn wlad fywiog sydd â thraddodiadau cryf a thirwedd amrywiol o ddinasoedd prysur, cadwyni o fynyddoedd a diffeithdiroedd cras. Mae dulliau coginio Moroco yn un o ddulliau coginio mawr y byd sy’n gyforiog o sbeisys cynnil a chyfuniadau o flasau diddorol. Mae dylanwadau Andalwsia Sbaen, Arabia a Ffrainc oll i’w gweld ar fwydydd blasus Moroco sy’n sicr o dynnu dŵr o’ch dannedd, a dyna sy’n ei wneud yn unigryw.

Mae rhai o’n hoff ryseitiau sydd â naws Morocaidd iddynt i’w gweld isod; gallech hefyd rannu eich rysáit chi gyda ni gan ddefnyddio #LloveLlamb ar y cyfryngau cymdeithasol.

Tagine Marrakech Cig Oen Cymru gyda Bricyll

Rhowch gynnig ar flasau persawrus Gogledd Affrica gyda tagine hyfryd. Mae’n fwyd i’ch cysuro heb y calorïau, wedi’i wneud gyda stoc a ffocws ar ychwanegu sbeisys. Mae Tagines yn wych i’w coginio ar gyfer y teulu – mae’n hawdd eu dyblu neu’u treblu i fwydo mwy o bobl. Mae cwscws wedi’i stemio yn mynd yn dda gyda’r saig hon.

Tagine Cig Oen Cymru, mintys a lemon wedi’i goginio’n araf

Mae blas sitrws braf i’r caserol Cig Oen Cymru aromatig hwn sydd â dylanwadau Gogledd Affrica ac mae’n hawdd ei goginio ar gyfer ffrindiau neu deulu. Ysgeintiwch fintys ffres dros eich tagine i’w weini i wneud argraff dda ar eich gwesteion.

Cig Oen Cymru arddull Morocaidd wedi’i Frwyso’n araf gan Bryan Webb

Caserol moethus a chynhesol sydd â digon o flas yw tagine Morocaidd melys a chynhesol y cogydd Bryan Webb. Rhannwch y cwscws i bowlenni gyda mintys ffres wedi’i dorri’n fân. Gweinwch y Cig Oen Cymru mewn powlen gyda’r saws harissa, ychydig o harissa ychwanegol a’r cwscws.

Tagine Cytledi Cig Oen Cymru

Mae’r caserol hwn sy’n cael ei goginio’n araf yn hen ffefryn ym Moroco, a cheir ynddo flas garlleg a sbeisys ras-el-hanout a ffigs blasus. Gweinwch hwn wedi’i ysgeintio â bricyll wedi’u torri, persli wedi’i dorri a sudd a chroen lemon.

Blogs

Er mwyn paratoi at Galan Oen 2019 gwahoddon ni bobl ddylanwadol o’r byd blogio bwyd i Benrhyn Gŵyr
Yn dilyn ei lwyddiant diweddar yn rhyfeddu pobl yn sioe BBC Countryfile Live
Fel mae nifer o’n cefnogwyr ni’n gwybod erbyn hyn, 1 Awst yw Calan Oen..
Mae’r amser wedi cyrraedd unwaith eto eleni i oreuon y byd amaeth lanio yn Llanfair-ym-Muallt i ddathlu pinacl amaethyddiaeth Prydain, onid yw amser yn hedfan?