facebook-pixel

Stecen sbawd frith (featherblade) Cig Eidion Cymru gyda chimichurri

  • Amser paratoi 20 mun
  • Amser coginio 8 mun
  • Ar gyfer 2

Bydd angen

  • 2 stecen sbawd frith Cig Eidion Cymru PGI, arwyneb wedi’i ricio ychydig
  • ½ llwy de o naddion halen
  • ½ llwy de o bupur du bras
  • 1 llwy fwrdd o olew

Ar gyfer y chimichurri:

  • 1 bwnsiad o bersli, dail gwastad
  • 1 bwnsiad o goriander
  • Nionyn coch bach, wedi’i dorri’n fan
  • 4 llwy fwrdd o olew olewydd pur iawn –
  • 2 lwy fwrdd o finegr gwin coch
  • 4 ewin garlleg, wedi’u gwasgu
  • ½ llwy de o naddion tsili
  • ½ llwy de o cwmin
  • ½ llwy de o halen môr

Gwybodaeth am faeth

  • Ynni: 1531 KJ
  • Calorïau: 366 kcals
  • Braster: 23.5 g
  • Sy’n dirlenwi: 5 g
  • Halen: 1 g
  • Haearn: 6.1 mg
  • Sinc: 5.9 mg
  • Protein: 36.4 g
  • Ffeibr: 2 g
  • Carbohydradau: 5.7 g
  • Sy’n siwgro: 3.8 g

Dull

  1. Cynheswch badell ffrio. Coginiwch y stecen am 2-3 munud ar bob ochr ar gyfer cig cymedrol/gwaedlyd.
  2. Rhowch y stecen o’r neilltu am 5 munud cyn ei sleisio’n denau yn groes i’r graen.
  3. I wneud y chimichurri, cymysgwch yr holl gynhwysion mewn prosesydd bwyd am ychydig funudau.
  4. Ychwanegwch yr olew a’r halen a’r pupur.
  5. Taenwch y saws dros y stecen cyn ei gweini.
Share This