Denningvleis Cig Oen Cymru

Bydd Angen

  • 1.5kg (3lbs) o olwythion pen bras Cig Oen Cymru, wedi'u torri'n ddarnau llai
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o olew
  • 3 nionyn mawr, wedi'u torri
  • 4 ewin garlleg
  • 6 clof cyfan
  • 5ml (1 llwy de) o bupur Jamaica
  • 5ml (1 llwy de) o nytmeg mâl
  • 5ml (1 llwy de) o hadau mwstard
  • 3 deilen lawryf
  • 7.5ml (1½ llwy de) o halen
  • 60ml (4 llwy fwrdd) o bâst tamarind
  • 30ml (2 lwy fwrdd) o siwgr brown
  • 250ml (1 gwpanaid) o ddŵr

Dull

  1. Mewn dysgl gaserol fawr y gellir ei rhoi yn y popty, ffrïwch y golwythion yn yr olew nes maent wedi brownio ar bob ochr, yna tynnwch y cig o'r ddysgl. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 160°C/320°F/marc nwy 3.
  2. Trowch y gwres i lawr a ffrïwch y nionod a'r garlleg yn ysgafn nes maent wedi meddalu.
  3. Ychwanegwch y clofs, y pupur Jamaica, y nytmeg, y mwstard, y dail llawryf, yr halen, y tamarind, y siwgr brown a'r dŵr at y gymysgedd a throwch nes bod popeth wedi'i gymysgu'n dda. Ychwanegwch fwy o ddŵr os oes angen.
  4. Rhowch y caead ar y caserol a'i roi yn y popty. Coginiwch am awr.
  5. Gwiriwch y cig, ychwanegwch fwy o ddŵr os oes angen - digon i sicrhau nad yw'r stiw'n sychu - yna coginiwch am awr arall, neu nes mae'r cig yn frau, ar 140°C/280°F/marc nwy 1.
  6. Gweinwch gyda geelrys a boereboontjies.

Gwybodaeth Rysáit

Gweinwch 8
Calorïau 118 kcals
Amser Coginio

Argraffu'r dudalen hon