Darnau o Gig Eidion mewn Quinoa Crensiog, gyda Dipiau

Bydd Angen

  • 450g o stecen syrlwyn

Ar gyfer yr haen grimp:

  • 8oz/225g o quinoa wedi'i goginio
  • 1 ŵy
  • 1 gwynwy
  • 2 lwy fwrdd o flawd wedi'i sesno
  • 75g o gaws parmesan, wedi'i gratio'n fan
  • Halen a phupur
  • 1/2 llwy de o rosmari sych
  • 1/2 llwy de o berlysiau sych
  • Pinsiad o bupur Cayenne

Dull

  1. Cynheswch y popty ymlaen llaw i 160°C. I wneud y quinoa'n grimp, taenwch yn gyfartal dros bapur pobi ar hambwrdd pobi, a'i roi yn y popty am oddeutu 20-25 munud. Gadewch iddo oeri.
  2. Codwch dymheredd y popty i 200°C.
  3. Curwch yr ŵy a'r gwynwy a'i gilydd. Mewn powlen arall, cyfunwch y quinoa, yr halen a'r pupur, y perlysiau sych a'r caws parmesan.
  4. Rhowch y darnau cig eidion yn y blawd wedi'i sesno, yna yn y gymysgedd ŵy ac yna gorchuddiwch â'r gymysgedd quinoa. Rhowch nhw ar hambwrdd pobi anlynol, chwistrellwch yn ysgafn ag olew a phobwch am 15-20 munud nes maent yn grensiog.
  5. Gweinwch gyda dipiau.

Aioli - mayonnaise gyda garlleg wedi'i wasgu a phupur du.
Dip mayonnaise a rhuddygl poeth - 1 llwy fwrdd o ruddygl poeth hufennog, 2 lwy fwrdd o fayonnaise, 2 lwy fwrdd o crème fraîche a phersli wedi'i dorri.

Gwybodaeth Rysáit


Argraffu'r dudalen hon